Arts 23

 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyfranogiad yn y Celfyddydau

 

Ymateb gan Theatr Felinfach

 

Diolch am y cyfle i ymateb ar ran Theatr Felin-fach  i Ymchwiliad ar Gyfranogi yn y Celfyddydau gan Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Pwy y’n ni?  Ychydig o Gefndir:

Mae Theatr Felin-fach  yn defnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo:

·                     datblygiad creadigol unigolion a grwpiau

·                     datblygiad sgiliau a hyfedredd yn y celfyddydau

·                     cynhwysiad cymdeithasol

·                     datblygiad personol

·                     integreiddiad ieithyddol a diwylliannol

·                     cyfranogiad yn y celfyddydau

·                     dathliad o fynegiant diwylliannol

 

Mae Theatr Felin-fach yn gweithredu yn ôl y diffiniadau  canlynol a ddaw o ddogfen CELFrannu gan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru:

Cymryd rhan

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn cyfeirio at bobl yn cymryd rhan weithredol; gwneud, ffurfio a chreu.  Mae cymryd rhan yn y celfyddydau:

·      Yn broses rymus sy’n cysylltu’r genedl gyfan

·      Yn hyrwyddo Cymru iachach, gyfoethocach, sydd wedi’i haddysgu’n well ac yn fwy integredig

·      Yn weithgaredd gwirfoddol yn bennaf, wedi ei ysgogi gan chwilfrydedd personol yn hytrach na pholisi neu elw

 

 Celfyddydau Gwirfoddol

Gellir disgrifio hyn fel arfer celfyddyd gan bobl sy’n gweithio ac yn dysgu gyda’i gilydd yn rheolaidd, gan hefyd (ond nid o angenrheidrwydd) berfformio/arddangos yn lleol.  Mae celfyddydau gwirfoddol yn  celfyddydau amatur, celfyddydau ieuenctid, celfyddydau traddodiadol a gweithgareddau celfyddydol grwpiau diwylliannol, crefyddol a lleol.  Mae cyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau hefyd yn cael eu cynnig gan ystod eang o sefydliadau ac unigolion preifat, gan gynnwys ysgolion dawns preifat, tiwtoriaid cerddoriaeth, ac ati.

Y mae hefyd gyfoeth ac ehangder o gelfyddydau cymryd rhan, sy’n rhan gynhenid o fywydau pobl, ac nad ydyn nhw yn y gorffennol wedi cael eu cynnwys mewn cynllunio strategol ffurfiol, e.e. Sefydliad y Merched, Merched y Wawr, Ffermwyr Ifanc, Clybiau Ieuenctid; nifer ohonynt yn dod â phersbectif Cymreig unigryw i’r celfyddydau.

Celfyddydau Cymunedol

Mae arfer celfyddydau cymunedol yn cynnwys gweithwyr celfyddydol cymunedol proffesiynol yn creu cyfleoedd o fewn cymunedau i bobl ddatblygu sgiliau ac archwilio a datblygu syniadau drwy gymryd rhan yn weithredol yn y celfyddydau.  Mae arfer celfyddydau cymunedol yn aml yn targedu cymunedau difreintiedig.  Yn ôl ei natur, fe ddylai fod yn drawsffurfiol ei natur, a gall fod yn arf diwylliannol pwysig o ran cefnogi nodau adfywio cymunedol yn y tymor hir.

Gweithgareddau addysg gelfyddydol ac estyn allan

O bosibl, pobl ifanc yw’r sector fwyaf yn y gymuned sy’n rhan o weithgareddau celfyddydau cymryd rhan, gan fod cymryd rhan mewn celfyddydau dawns, cerddorol a gweledol yn orfodol yn ystod oedran ysgol gynradd.  Mae nifer o ysgolion yn cynnig gweithgareddau ychwanegol i ddisgyblion y tu allan i oriau ysgol, sy’n cynnwys y celfyddydau, a bydd nifer o ddisgyblion wedi bod mewn cysylltiad ar ryw adeg neu’i gilydd mewn gweithgaredd cymryd rhan “artist yn yr ysgol”.

Mae nifer o leoliadau celfyddydol a chwmnïau cynhyrchu yn ymrwymedig i gefnogi mentrau cymryd rhan ymarferol, yn aml wedi eu disgrifio fel gweithgareddau addysgol neu weithgareddau estyn allan.  Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn cael eu harwain gan weithwyr celfyddydol proffesiynol, ac yn gysylltiedig â gwaith cwmni penodol sydd ar daith.

Cwestiynau’r Ymchwiliad:

1              Mae Theatr Felin-fach yn gwasanaethu sir Ceredigion, sydd  yn un o 9 ardal yng Nghymru sy'n gyfan gwbl wledig ac mae hyn yn codi sialensiau gwirioneddol wrth ddarparu gwasanaethau yn ogystal ag wrth fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, iechyd a lles  trigolion y sir.  Mae mynegai cenedlaethol di-freintedd WIMD yn dangos mai tai a mynediad at wasanaethau yw’r prif ffactorau o ddi-freintedd yng Ngheredigion.  Yng nghyswllt mynediad at wasanaethau, mae Theatr Felin-fach yn gwasanaethu’r ardaloedd mwyaf gwledig  o Geredigion ac felly mae’r cynlluniau a’r rhaglenni a ddatblygir gan y theatr yn adlewyrchu ac yn ymateb i gyd-destun y boblogaeth wledig a chymdogaethau cefn gwlad.

Rydym yn gweithio gyda thrigolion o ardaloedd gwledig Ceredigion, o 0 oed i 85+.  Mae ein rhaglenni celfyddydau cyfranogol yn cynnwys gweithgaredd ym meysydd:

·      Drama a theatr

·      Dawns

·      Ffilm

·      Celfyddydau cyfunol

Rhai  enghreifftiau o brosiectau:

Tic-Toc, sesiynau cân, dawns a stori i blant bach 0-3 oed a’u rhieni

Rhwydwaith o Glybiau Drama i blant 7-11 oed

2 Theatr Ieuenctid 11-18 oed

2 gwmni dawns ieuenctid 7-11 oed, 11-18 oed

Cyrraedd y Nod

Brasgam - Rhaglen o sesiynau dawns “poblogaidd” e.e. cyfres o Zumba, Dawns Stryd

Cwmni Dawns ar gyfer 50+ oed

Prosiect drama ac ysgolion:  Diwylliant Bro, Cyfnod Sylfaen, Derbyn, CA1 a 2

Cwmni Actorion Cymraeg

Cwmni Actorion Saesneg

Prosiect drama radio

Cymdeithas Hwyl a Hamdden, 60+

Rhaglenni hyfforddiant anffurfiol

Gweithdai amrywiol

Cynhyrchiadau theatr gan wahanol grwpiau ymhlith y rhestr uchod ac eraill

Cynlluniau Sgrifennu Newydd.

 

Yn ystod 2010-11, darparodd Theatr Felin-fach:43,922 o gyfleoedd celfyddydol i drigolion Ceredigion, gyda dros 30,000 o’r cyfleoedd hynny’n gyfleoedd cyfranogi.

2a/b       Yng Ngheredigion ceir ystod eang o gyfleoedd yn y celfyddydau, boed yn sioeau proffesiynol i’w mynychu fel aelod o gynulleidfa neu fel cyfranogwr mewn gweithgaredd creadigol, o gwmni drama i eisteddfod.  O fewn ein sir, ac yn sgil adolygiad portffolio CCC 20010, welwyd cynni mawr ar weithgaredd celf gyfranogol.  Serch hynny, mae gofid cyson ymhlith y sector fod peryg i’r celfyddydau ddioddef toriadau yn wyneb y dirwasgiad presennol.   Mae’r celfyddydau yn yrrwr pwysig iawn ym maes lles trigolion Cymru.  Mae’r budd a ddaw o gyfranogi mewn gweithgaredd celfyddydol yn enfawr o ran datblygu sgiliau, datblygu hunan-hyder, dathlu hunaniaeth a diwylliant ac mae’n cymhathu ac integreiddio yn ieithyddol a diwylliannol.   Er nad yw Ceredigion wedi dioddef toriadau enbyd yng ngwariant ar y celfyddydau, gallwn weld sut y mae ardal wledig iawn fel Powys wedi diodde o golli buddsoddiad yn y celfyddydau.  Mae ynysigrwydd gwledig yn ffactor mawr iawn mewn di-freintedd yng nghefn gwlad a chredwn yn gryf bod y rhwydweithiau o gyfleoedd cyfranogi yn allweddol i hyfywedd yr ardaloedd gwledig, i’r iaith Gymraeg ac i les ein pobl. 

 

3              Oes, ardaloedd gwledig iawn e.e un o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Ceredigion, Tregaron a’r ucheldir – er bod nifer o sefydliadau Ceredigion yn gwasanaethu rhannau o’r ardal honno, mae’r ardal sydd tu hwnt i’r pentrefi, yn anodd eu cyrraedd ac yn fwy penodol, yn anodd i bobl ifanc yn arbennig, deithio allan i ganolfannau sy’n darparu rhaglenni cyfranogol.  Mae ein sefydliad yn darparu rhai rhaglenni sy’n estyn allan i ardaloedd fel hyn, ond mae angen mwy o ddwylo i fedru cynnal gweithgarwch mwy cyson.  Mae tlodi tannwydd a phrinder trafnidiaeth gyhoeddus yn ffactor real iawn mewn ardaloedd gwledig yn ogystal, a gwelwn bod darparu gweithgaredd cyfranogol, sy’n rhad ac am ddim, yn galluogi bobl i gymryd rhan falle na fedrai gymryd rhan petaent yn gorfod talu am y gweithgaredd yn ogystal â’r gost o gyrraedd canolfan.

 

4              Mae ffynonellau eraill ar gael ar gyfer gweithgaredd celfyddydol cyfranogol e.e.  Loteri, Esmee Fairbairn, ymddiriedolaethau amrywiol , ond mae pwyslais yn aml ar greu rhywbeth sy’n “newydd a gwahanol”, lle weithiau mae angen cyllid i ddatblygu rhywbeth sydd eisoes yn llwyddiant.   Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi arweiniad da a chyngor i sefydliadau, grwpiau neu unigolion am ffynonellau ariannol perthnasol.  Roedd rôl Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn werthfawr wrth ymddwyn fel “arwydd-bost” i fudiadau neu sefydliadau oedd am ddatblygu  syniad.  Mae’r  CCGG/WCVA yn chwarae rhan bwysig o ran y sector gwirfoddol yn ogystal ac yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio a rhannu gwybodaeth sy’n ddefnyddiol i’r sector celfyddydau cyfranogol.

                Does dim dwywaith nad yw sefydliadau a chyrff celfyddydol wedi gweld cynni yn y ffynhonnell loteri yn sgil y Gemau Olympaidd, mae teimlad o “ddal anadl” yn y sector i weld beth ddaw fel gwaddol i’r Gemau. 

 

5              Mae’r hyn a elwid yn “sector celfyddydau gwirfoddol” yn derm camarweiniol efallai, pe gofynnid i rywun rhestru beth sydd o fewn y “sector”, mae’n siwr mai ysgolion dawns, cwmniau drama cymunedol ac “amatur”,  unigolion sy’n cael eu hadnabod fel ymarferwyr celf gâi eu rhestr.  Pur anaml y cyfeirir at bethau fel Eisteddfodau lleol (yn ogystal â’r rhai cenedlaethol)  neu fudiadau sydd ag elfen o gelfyddydau cyfranogol, e.e. Yr Urdd, CFFI,  fel gyrrwyr celfyddydol cyfranogol ac eto mae trac-record dilychwin gan gyrff felly wrth annog cyfranogiad yn y celfyddydau.  Mae mudiadau a chyrff felly’n defnyddio’r celfyddydau fel ffurf o fynegiant ar y diwylliant Cymreig a dwyieithog,  ond maent yn ran o ddarpariaeth celfyddydau gwirfoddol ac eto’n tueddu i fod yn “anweledig” yng nghyd-destun trafod y celfyddydau.   Mae rôl y sector celfyddydau gwirfoddol yn allweddol  mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau.

 

6              Credaf fod y berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru â’r cyrff sy’n dosbarthu arian i’r celfyddydau yn weddol.  Ar gyfer y cyrff sy’n dod oddi fewn i bortffolio Cyngor y Celfyddydau, fel cleient refeniw, mae’r materion strategol yn cael eu gwyntyllu drwy’r cyfarfodydd Adolygu Blynyddol, mae’r broses Adolygu Blynyddol yn un werthfawr iawn a’r ddeialog rhwng sefydliadau a’r CCC yn adeiladol wrth drafod materion sectorol.    Credwn bod lle i gryfhau’r arweiniad strategol a ddaw oddi wrth y Llywodraeth wrth osod blaenoriaethau i’r CCC a’r sefydliadau.  Er enghraifft, mae Tlodi Plant yn thema hollbwysig i sefydliadau ei daclo, ac er bod rhaglenni celfyddydau cyfranogol yn mynd i’r afael â rhai elfennau o’r thema honno drwy natur y gwaith celf gyfranogol  – gellid cryfhau’r arweiniad o du’r Llywodraeth o safbwynt beth yw’r disgwyliadau oddi wrth sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd cyfranogi yn y celfyddydau neu arweiniad ar ba fath o ddangosyddion sy’n bosib ac yn briodol yn y maes sensitif hwn.

 

Diolch eto am y cyfle i gyflwyno rhai sylwadau.

 

Theatr Felin-fach

Ceredigion

Mawrth 2012